Skip to main content

Creigafal y Gogarth

Dyma ein hunig rywogaeth frodorol o Greigafal yng Nghymru, ac yn y 1970au dim ond cyn lleied â 6 phlanhigyn oedd ar ôl yn y gwyllt, gan ei roi mewn perygl allweddol yn rhyngwladol!

Dim ond yn IPA y Gogarth ger Llandudno y mae i’w gael, lle mae ein swyddog planhigion fasgwlaidd, Robbie, yn gweithio ochr yn ochr â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, PONT, a’r ffermwr tenant, Dan Jones, i bori’r tir mewn a ffordd sydd o fudd i’r rhywogaeth.

Mae hyn, ynghyd ag ymdrechion i blannu planhigion ifanc allan, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac rydyn ni wedi mynd o 6 i ymhell dros 70 o blanhigion. Rydyn ni nawr yn gweithio gyda myfyrwyr ymchwil, Dan a gardd fotaneg Treborth i ddeall yr effeithiau y mae newidiadau i arferion pori yn eu cael ar y rhywogaeth yma, er mwyn i ni allu deall y ffordd orau o reoli ar ei chyfer yn y dyfodol.

Yr hyn rydyn ni’n ei ganfod yw bod llwyddo i gynnal y rhywogaeth hon yn arwain at sgîl-effeithiau cadarnhaol ar rywogaethau eraill ar y Gogarth, sy’n dangos sut gall gwaith adfer rhywogaethau wedi’i dargedu sicrhau budd rhaeadru cadarnhaol y tu hwnt i’r rhywogaeth honno, allan i’r ecosystem ehangach.

Snowdon Hawkweed

Heboglys yr Wyddfa

Mae’r planhigyn bach, heulog yma o Gymru, sy’n aelod o deulu dant y llew, mewn perygl allweddol yn rhyngwladol. Mae’n gwneud ei gartref ar lethrau mynyddig mwyaf anhygyrch Eryri, lle mae’n ddiogel rhag unrhyw darfu.

Fodd bynnag, oherwydd y newid yn yr hinsawdd, mae hyd yn oed y noddfeydd hyn yn dod yn anodd byw ynddynt – yn llythrennol ac yn ffigurol mae ar ymyl y dibyn.

Mae ei hoffter o lefydd anhygyrch yn ei gwneud yn broblemus (a dweud y lleiaf) i fonitro’r planhigyn. Fodd bynnag, fe weithiodd cadwraeth a chwaraeon eithafol law yn llaw pan aeth Robbie, Alex Turner a Mike Raine allan ar raffau i chwilio am y trysor mynyddig yma. Mae eu hymdrechion wedi datgelu bod poblogaeth y planhigyn wedi cynyddu o 2 unigolyn, i 4!

Er bod hynny’n brin o hyd, mae’n cynrychioli dyblu poblogaeth fyd-eang y rhywogaeth yma, ac mae’n rhoi gobaith i ni y gall y boblogaeth yma adfer gyda chymorth.

Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi derbyn cyllid ar gyfer Natur am Byth!, prosiect adfer rhywogaethau blaenllaw Cymru yr ydyn ni’n rhan ohono, ynghyd â naw elusen amgylcheddol arall. Bydd Robbie yn arwain ar Dlysau Mynydd Eryri er mwyn darparu achubiaeth amhrisiadwy i rywogaethau fel Heboglys yr Wyddfa.

Unwaith y bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi byddwn yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i reoli pori gan ddefaid a geifr ar y mynydd, a’r gobaith yw y bydd hyn yn creu mwy o gynefinoedd heb unrhyw darfu i’r rhywogaeth yma sefydlu.

Rosie Saxi

Tormaen Gwridog

Mae’r em fynyddig yma’n rhan o gyfres o rywogaethau a fu unwaith yn gyffredin ledled y DU ac Ewrop, y planhigion Arctig-Alpaidd.

Yn dilyn yr Oes Iâ ddiwethaf byddai wedi cael ei darganfod dros rannau helaeth o Brydain, ond mae rhywogaethau o’r de sy’n sefydlu wrth i’r tymheredd godi wedi ei gweld yn cilio i’n copaon uchaf ni, lle mae’r tymheredd blynyddol yn ddigon oer.

Mae’r rhywogaeth yma wedi’i dosbarthu fel un sydd dan fygythiad ar restr goch ar lefel y DU, er ei bod wedi’i hasesu’n fyd-eang fel y Pryder Lleiaf (gellir ei chanfod ar draws tirweddau alpaidd Ewrop). Mae pob rhywogaeth yn rhan wirioneddol bwysig o’n treftadaeth naturiol ni ac mae colli rhywogaeth sy’n frodorol i wlad yn golled sylweddol, nid yn unig yn ddiwylliannol, ond yn ecolegol hefyd.

Mae’r tormaen gwridog yn un rhywogaeth o’r fath yr ydyn ni wedi’i cholli, ac mae bellach wedi diflannu o’r gwyllt yng Nghymru. Ond mae ymdrechion ar droed i’w hailgyflwyno i safle profi yn ddiweddarach eleni. Yn rhyfeddol, mae’r planhigion a ddefnyddir o darddiad Cymreig, wedi’u hachub o doriad a gymerwyd yn y 1960au, sy’n golygu y bydd ein hunaniaeth enetig genedlaethol ni ar gyfer y rhywogaeth hon yn cael ei chadw, gan ein galluogi i ailboblogi ein tirwedd unwaith eto.

 

 

Pam rydyn ni’n trafferthu hyd yn oed?

Wildflowers in pink, purple and yellow among grass in Cae Blaen-dyffryn.

Ein rhywogaethau ni yw’r rhannau sylfaenol o fioamrywiaeth – po fwyaf o rywogaethau sydd mewn cynefin, y mwyaf amrywiol yw’r cynefin hwnnw. Yr amrywiaeth hon sy’n caniatáu i ecosystemau weithredu’n iach a bod yn wytnach.

Mae hyn yn golygu, pan fyddwn ni’n colli rhywogaethau i ddifodiant, mae’n tanseilio gallu ein hecosystem i addasu ac ymateb i newid yn yr hinsawdd a bygythiadau dirfodol eraill. Dyma’r prif reswm pam mai adfer rhywogaethau yw un o’n blaenoriaethau ni yn Plantlife. Gyda phartneriaid, rydyn ni’n bwriadu adennill 100 o rywogaethau o blanhigion, a’u symud allan o gategorïau risg difodiant uchel, i gategorïau risg is.

Rydyn ni’n gefnogwyr balch yr ymgyrch fyd-eang Gwyrdroi’r Coch – mudiad sy’n ymroddedig i dynnu sylw at yr holl waith sy’n cael ei wneud i geisio atal difodiant ac atal rhagor o rywogaethau rhag prinhau.

Tiwniwch mewn yn ystod y mis i ddarganfod mwy am y rhywogaethau rydyn ni a’n partneriaid yn gweithio arnynt i Wyrdroi’r Coch a brwydro’n ôl yn erbyn difodiant.

a field of grass field with a variety of flowers in pink, purple, yellow and white

Sut gallaf i helpu?

Dod yn warcheidwad glaswelltir a helpu i adfer 10,000 o hectarau o laswelltir llawn rhywogaethau erbyn 2030. Cyfrannwch heddiw.

Beth ydi’r Mwsogl yma: Cynghorion Adnabod i Ddechreuwyr

Beth ydi’r Mwsogl yma: Cynghorion Adnabod i Ddechreuwyr

Yn 2022 wynebodd Lizzie Wilberforce yr her o geisio dysgu adnabod rhai o rywogaethau mwyaf cyffredin Prydain o fwsoglau a llysiau’r afu, ger ei chartref yng ngorllewin llaith a mwsoglyd Cymru.

How to Identify Waxcap Fungi
A red fungi growing in grass

How to Identify Waxcap Fungi

Grasslands like meadows and parks are not just home to wildflowers, they are also an important habitat for waxcap fungi.

Lichen Hunting in the Welsh Marches
A stick covered in lichen

Lichen Hunting in the Welsh Marches

Ever wondered why we need to go out and count rare plants? Meg Griffiths reflects on a summer of lichen hunting for the Natur am Byth! Project.

Mae pethau newydd bob amser yn gyffrous, dydyn? Y tro cyntaf y bydd rhywbeth yn eich gardd yn blodeuo, darn newydd o Degeirianau’r Wenynen mewn lawnt heb ei thorri, cofnod newydd o rywbeth prin yn eich ardal NPMS? Beth am rywogaeth newydd o blanhigyn i’ch gwlad?

Dyna’n union beth ddigwyddodd i mi yn haf 2021 – ond yn gyntaf, rhywfaint o gefndir.

Darganfod cnwpfwsoglau Cymru

Mae cnwpfwsoglau’n griw o blanhigion sy’n fy nghyffroi i’n fawr. Maen nhw’n grŵp o blanhigion sydd wedi bod o gwmpas ar ryw ffurf neu’i gilydd ers y cyfnod Silwraidd (sef mwy na 430 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Mae gennym ni bum rhywogaeth yma yn Eryri: Alpaidd, Cors, Mawr, Lleiaf a Chorn Carw. Roedd gennym ni un arall, y Cnwpfwsogl Bylchog Lycopodium annotinum, tan ddiwedd y 1830au, pan welodd William Wilson y rhywogaeth ddiwethaf uwchben Llyn y Cŵn yn uchel uwchben Cwm Idwal. Erbyn 1894, roedd J.E. Griffith wedi datgan bod y Cnwpfwsogl Bylchog wedi diflannu o Gymru yn ei ‘Flora of Anglesey and Carnarvonshire’. Rydw i wedi chwilio am y Cnwpfwsogl Bylchog nawr ers blynyddoedd, yn ofer – ond ni fyddaf yn rhoi’r gorau iddi.

Diwrnod da allan yn y mynyddoedd i mi yw ‘diwrnod pedwar cnwpfwsogl’. Bydd ‘diwrnod pum cnwpfwsogl’ yn mynd â fi heibio i lecyn neu ddau penodol iawn lle byddaf yn gweld Cnwpfwsogl y Gors Lycopodiella inundata hefyd, ac yn fy ngorfodi i lwybr hirach a chylch i gyrraedd y llecynnau i weld y pedwar arall.

Hares Foot Clubmoss in it's habitat

Pan fyddaf yn botanegu dramor, mae’r Cnwpfwsoglau’n uchelfannau ar fy anturiaethau ac roeddwn i’n arbennig o falch o ddod o hyd i un o’n rhywogaethau brodorol ni, y Cnwpfwsogl Corn Carw Lycopodium clavatum, yn tyfu’n uchel ym mynyddoedd De Affrica pan oeddwn i yno yn 2017.

Mae gweld y planhigion hyn, sydd heb newid fawr ddim am gyfnod mor hir ac sy’n dal i fodoli yn ein byd anthropogenig ni, yn fy nghyffroi i’n fawr. Byddaf bob amser yn cadw llygad amdanynt os ydynt yn blanhigion bach iawn y Cnwpfwsogl Lleiaf Selaginella selaginoides yn tyfu mewn tryddiferiadau llawn calsiwm neu ffeniau, neu’n fatiau gwasgarog enfawr o’r Cnwpfwsogl Alpaidd Diphasiastrum alpinum sy’n tyfu’n uchel ar ein llethrau mynyddig mwyaf agored ni sy’n cael eu pori gan ddefaid.

Darganfod Cnwpfwsogl Troed yr Ysgyfarnog

Ac felly un diwrnod yn 2021, wrth i mi gerdded llwybr nad ydw i’n ei ddefnyddio’n aml, gwelais gnwpfwsogl wnaeth dynnu fy sylw i’n fawr. Roedd y cnwpfwsogl yma’n debyg i’r Cnwpfwsogl Corn Carw, ond roedd ei ffordd o dyfu’n rhyfeddol o dalsyth a’r mwyafrif o’i gonau’n unigol ar ben ei goesigau byr, yn hytrach nag mewn dau neu dri ar ddiwedd coesigau byr yn apig y coesynnau. Yng nghefn fy meddwl, fe gofiais i am rywogaeth arall o gnwpfwsogl y cadarnhawyd yn eithaf diweddar ei fod yn bresennol yn y DU. Felly, gan ddefnyddio Cod Ymddygiad Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon, fe wnes i gasglu sampl fechan a thynnu llawer iawn o ffotograffau.

Ar ôl dychwelyd adref y diwrnod hwnnw fe gysylltais â ffrind, David Hill, i weld beth oedd ei farn am yr darganfyddiad – roedd y ddau ohonom ychydig yn ddryslyd ac yn anhapus i ddatgan yr hyn yr oeddem yn meddwl y gallai fod. Doedd Cnwpfwsogl Troed yr Ysgyfarnog (Lycopodium lagopus) ddim wedi’i ddarganfod ymhellach i’r de na’r Alban yn y DU, ac fe’i ystyriwyd yn brin yno. Y dryswch i ni oedd bod L. lagopus ac L. clavatum yn perthyn yn agos iawn ac yn rhannu llawer o nodweddion.

A close up of Hares Foot Clubmoss

Parhaodd y sgwrs rhwng y ddau ohonom ni am bron i flwyddyn cyn i mi allu mynd yn ôl i’r safle a gweld y planhigion gyda chonau ffres. Y tro yma, fe wnes i gasglu sampl arall yn ofalus, a thynnu mwy fyth o ffotograffau a mynd â nhw gyda mi i Gynhadledd Fotanegol BSBI yn y Natural History Museum yn Llundain, lle roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n siŵr o daro ar Dr. Fred Rumsey – y dyn a ysgrifennodd ‘y papur’ am Gnwpfwsogl Troed yr Ysgyfarnog fel rhywogaeth yn y DU.

Yn sicr ddigon, roedd Fred yn hapus iawn i ddatgan bod gan hwn holl nodweddion Lycopodium lagopus ac felly’n aelod newydd o fflora Cymru.

Rhywogaeth newydd i Gymru

Mae gweld Cnwpfwsoglau Cymru yn gyffrous, ac mae dod o hyd i un newydd sbon yn WIRIONEDDOL gyffrous. Roeddwn i wedi rheoli fy nghyffro am ddod o hyd i’r ‘rhywbeth newydd’ yma ers amser maith. Roedd y sbesimenau wedi eistedd ar fy nesg am bron i ddwy flynedd cyn i Dr Rumsey lwyddo i’w gweld nhw. Felly, rydw i’n falch iawn o ddweud wrthych chi am hyn nawr.

Mae gennym ni chwe rhywogaeth o Gnwpfwsogl yng Nghymru eto, ond nid gyda’r un yr oedden ni’n credu y gallem ei hailddarganfod. Byddai eu gweld i gyd ar yr un pryd wrth fynd am dro yn siwrnai hir iawn, felly bydd ‘diwrnod pedwar cnwpfwsogl’ yn parhau i fod yn ddiwrnod da yn y mynyddoedd, mae ‘diwrnod pum cnwpfwsogl’ yn parhau i fod yn eithriadol, ac mae ‘diwrnod chwe chnwpfwsogl’, mae arnaf ofn , yn un hynod flinedig. Rhyw ddiwrnod, efallai y caf ‘ddiwrnod saith cnwpfwsogl’ – efallai bod y Cnwpfwsogl Bylchog yna wedi goroesi o hyd rhywle ym mynyddoedd Eryri.

Why I’m Now Farming for Nature

Why I’m Now Farming for Nature

Hywel Morgan, Plantlife’s Agricultural Advisor, explains how and why he made the switch to sustainable farming on his 230-acre farm in Wales.

Lichen Hunting in the Welsh Marches
A stick covered in lichen

Lichen Hunting in the Welsh Marches

Ever wondered why we need to go out and count rare plants? Meg Griffiths reflects on a summer of lichen hunting for the Natur am Byth! Project.

How to Identify Waxcap Fungi
A red fungi growing in grass

How to Identify Waxcap Fungi

Grasslands like meadows and parks are not just home to wildflowers, they are also an important habitat for waxcap fungi.